Fixture

Pwllheli RFC | 1st Team 77 - 17 Clwb Rygbi Rhuthun | 1st Team
Osian Jones
Conversion 6
Penalty 1
Try 1
Tom Parry
Try 2
Ianto Sion Pari
Try 3
Danial Williams
Conversion 1
Try 4
Rhys Williams
Try 1
Deio Llwyd Brunelli
Try 1
Nicholas Butterworth
Try 1
Callum Bennett
2 Conversion
1 Penalty
Gareth Morgan
1 Try

Match Report
05 April 2015 / Team News

Pwllheli 77 Ruthin 17

Gyda Phwllheli â’u llygaid ar y teitl a Rhuthun yn ceisio gwella ar ôl eu rhediad gwael yn ail hanner y tymor, dechreuodd y gêm ar garlam a pharhaodd tan y chwiban olaf gyda Phwllheli’n sgorio 60 pwynt yn fwy na’r ymwelwyr.  Aeth y pwyntiau cyntaf i Bwllheli gyda gôl gosb o fewn y pum munud cyntaf, a atebwyd gyda gôl gosb gan y maswr Callum Bennett pum munud yn ddiweddarach.  Rhoddwyd y pwysau ymlaen gan Bwllheli gyda rhedeg cryf a a phasio chwim, ac er bod y Gleision wedi amddiffyn yn dda am gyfnod, yn y pen draw ildiwyd trosgais.  ‘Roedd yn dro i Rhuthun ymosod, ond ar ôl gwaith da gan y blaenwyr yn 22 Pwllheli, fe gollwyd y bêl yn dilyn trafod gwael a thorodd Pwllheli o’u hanner eu hunain am eu hail trosgais.  O fewn deg munud ymhellach, sgoriodd Bwllheli dau gais eto a chael eu pwynt bonws.  Nid oedd y Gleision yn isel eu hysbryd, ac ar ôl rhoi pwysau ymlaen yn 22 Pwllheli, fe groesodd Gareth Morgan y gwyngalch am gais a droswyd gan Bennett.  Ar yr egwyl, 27-10 i Bwllheli oedd y sgôr, ac er bod y Gleision wedi dechrau’r ail hanner yn ymosod, y tîm cartref aeth ymhellach ar y blaen.  Ar ôl cliriad o’u 22 a aeth â nhw nôl i hanner yr ymwelwyr, ochrgamodd eu hasgellwr trwy amddiffyn Rhuthun am drosgais.  Aeth Pwllheli i lawr i 14 dyn trwy gerdyn melyn, a defnyddiodd Rhuthun eu mantais i ymosod unwaith eto.  Cipiwyd gais gan yr eilydd rheng flaen, Zak Roberts, a droswyd gan Bennett.  Er eu bod 34-17 i lawr, mi ‘roedd Rhuthun dal yn y gêm yn erbyn y tîm deheuig o Bwllheli ac nid oeddynt yn disgwyl y cyrch a ddaeth yn yr 20 munud nesaf.  Cafwyd saith cais ychwanegol i’r tîm cartref ar gyfartaledd o un pob tri munud gyda thîm di-hwyl Rhuthun yn methu atal y llif.  Er bod eu hymdrechion yn lew, y canlyniad yn rhy aml oedd colli’r bêl i’r gwrthwynebwyr rhemp.  Daeth ryddhad i chwaraewyr a chefnogwyr Rhuthun gyda’r chwiban olaf hefo’r sgôr yn 77-17 i Bwllheli a’r tîm cartref wedi gwneud pob dim yn eu gallu i sicrhau’u bod yn parhau yn y gystadleuaeth am y bencampwriaeth.

With Pwllheli having their on the title and Ruthin trying to improve on their poor run in the second half of the season this game started at a fast pace and didn’t let off until the final whistle blew with Pwllheli scoring 60 more points than the visitors.  First points went to Pwllheli with a penalty goal within 5 minutes countered by fly half Callum Bennett slotting over a penalty goal himself 5 minutes later.  Pwllheli began to up the pressure with strong running and quick offloads and although the Blues defended well for a period eventually they succumbed to a converted try.  It was then Ruthin’s turn to attack but after some good forwards play in Pwllheli’s 22 lost the ball through poor handling and Pwllheli broke from their own half to score their second converted try.  Within 10 minutes they had scored another two tries and got their bonus point.  The Blues were not down however and after pressure in Pwllheli’s 22 centre Gareth Morgan went over the whitewash for a try which Bennett converted.  The score at the break was 27-10 to Pwllheli and although the Blues started the second half on the attack it was the home side that went further ahead. After a clearance from their own 22 put them back in the visitors half, their winger dodged through Ruthin’s defence for a converted try.   Pwllheli went down to 14 men with a sin bin and Ruthin used their advantage to attack again and replacement front row Zak Roberts grabbed a try which was converted by Bennett.  Although behind at 34-17 Ruthin were still in the game against this skilful Pwllheli side and were not expecting the onslaught that came in the next 20 minutes.  The home side ran in seven further tries at the rate of one every 3 minutes with a now dispirited Ruthin side unable to do anything about it.  Their attempts to stem the tide were valiant but too often resulted in them losing the ball to a rampant opposition.  The whistle finally blew to the relief of Ruthin players and spectators with the score 77-17 to Pwllheli with Pwllheli having done all they could to keep in contention for the league title.

Players
Gallery

There doesn't appear to be any tagged photos.

Upload and Tag Photos
|