Fixture

Clwb Rygbi Rhuthun | 1st Team 20 - 13 Denbigh (Dinbych) RFC | 1st Team
deian Williams
Conversion 2
Penalty 2
Joshua Wilson
Try 1

Match Report
01 March 2015 / Team News

Ruthin 20 Denbigh 13

Mae gemau rhwng cymdogion pob tro’n rhai agos ond ‘roedd hon rhwng Rhuthun a Dinbych gyda awch ychwangeol gan fod y tîm cartref yn awyddus i roi terfyn ar eu rhediad diweddar o golledion a Dinbych angen pwyntiau i aros allan o’r safleoedd disgyn.  Daeth y pwyntiau cyntaf i Ddinbych gyda gôl gosb gan Garin Roberts ar ôl pum munud, a phum munud yn ddiweddarach, ymatebodd Deian Lloyd Willims â gôl gosb.  Cafodd yr ymwelwyr gyfle i fynd ar y blaen ond methwyd â chic gosb arall.  ‘Roedd Dinbych yn rhoi pwysau ymlaen yn hanner Rhuthun ond yn methu â throsi hynny i bwyntiau, ac yn y pen draw, aeth y chwarae nôl i 22 yr ymwelwyr diolch i gic wych gan Lloyd Williams.  Ar ôl sgrym i Rhuthun, rhyddahawyd yr asgellwr Josh Williams a brwydrodd o ei ffordd dros y llinell am gais.  Ymatebodd yr ymwelwyr ac yn ystod y deg munud nesaf bu raid i’r Gleision ammddiffyn yn eu 22 eu hunain.  Cipiodd Dinbych tri phwynt ymhellach gyda gôl gosb ond sicrhaodd taclo da gan y gleision na fu sgôr pellach.  Am bum munud olaf yr hanner gyntaf, ‘roedd Rhuthun nôl yn 22 yr ymelwyr heb ychwanegu at eu sgôr a chwythwyd y chwiban gyda’r sgôr yn 10-6 i Rhuthun.  Chwaraewyd ugain munud cyntaf yr ail hanner yn bennaf yn hanner yr ymwelwyr heb i Rhuthun edrych yn fygythiol yn erbyn ammddiffyn cadarn, ac yn y pen draw torrodd yr ymwelwyr i ffwrdd i 22 y Gleision.  Ildiwyd gic gosb gan y Gleision are eu 22 eu hunain a chymerwyd sgrym gan Dinbych.  Arweiniodd hynny at Rhuthun yn cael eu gwthio tros eu llinell am gais da gan Dan Jones, a throswyd gan Roberts.  Yn dri phwynt i lawr, newidiodd Rhuthun gêr a daeth y sgôr yn gyfartal gyda gôl gosb gan Lloyd Williams.  Parhawyd â’r pwysau gan Rhuthun ac ar ôl i’r blaenasgellwr Tudur Parry wthio’i ffordd o fewn pum metr i linell yr ymwelwyr, casglodd fewnwr Rhuthun, Will Mitchelmore, y bêl i sgorio ail gais y Gleision.  Ychwanegwyd y trosiad gan Lloyd Williams.  Am weddill y gêm, Rhuthun oedd â’r goruchafiaeth, gan ennill 20-13.

 

Local derbies are always hard fought affairs but the match between Ruthin and Dinbych had an added edge as Ruthin wanted to stem their recent run of losses and Denbigh needed points to keep out of the relegation zone.  First points went to Dinbych with a penalty goal by Garin Roberts 5 minutes in and 5 minutes later the Blues fly half Deian Lloyd Williams reciprocated.  The visitors had the chance to take the lead again with another penalty goal kick but it went wide.  Dinbych were applying some pressure in Ruthin’s half but were unable to convert this into points and eventually a great kick from Lloyd Williams put the play back into the visitor’s 22.  After a Ruthin scrum, wing Josh Wilson was released and fought his way over the line for a good try.  The visitors responded and for the next 10 minutes the Blues had to defend in their own 22.  Denbigh grabbed 3 more points with a penalty goal but some good Blues tackling prevented any further score.  For the last 5 minutes of the 1st half Ruthin were back in the visitors 22 but there was no additional score and the whistle blew at 10-6 to Ruthin.  The first 20 minutes of the second half were played mostly in the visitor’s half but without Ruthin making much headway against a stout defence and eventually the visitors broke into the Blues 22.  The Blues conceded a penalty on their own 22 and Dinbych opted for a scrum and led by Dan Jones pushed over for a fine try converted by Roberts.  At 3 points down the Blues upped a gear and levelled the scores with a penalty goal from Lloyd Williams.  The Blues continued their pressure and after flanker Tudur Parry forced his way to within 5 metres of the visitor’s scrum half Will Mitchelmore collected and scored the Blues 2nd try which Lloyd Williams converted.  The match played out with the Blues in the ascendancy and winning 20-13.

Players
Gallery

There doesn't appear to be any tagged photos.

Upload and Tag Photos
|